Ymchwil a datblygu

Ymchwil a datblygu

Ymchwil a datblygu (R&D) yw pan fo busnes yn datblygu cynnyrch, gwasanaethau neu brosesau arloesol.

I lawer o fusnesau newydd, ac yn arbennig y rhai sydd mewn sectorau sy’n ymwneud â thechnoleg neu arloesi, mae R&D yn chwarae rôl ganolog yn eu syniad busnes, ac mae’r cyllid yn cael ei ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau R&D cychwynnol fel:

Dilysu syniadau

Mae R&D yn caniatáu i entrepreneuriaid brofi hyfywedd eu syniad busnes. Mae’n gallu sicrhau bod y cynnyrch neu’r gwasanaeth yn llenwi bwlch gwirioneddol yn y farchnad ac yn bodloni disgwyliadau’r cwsmeriaid

Sgiliau arbenigol

Gall R&D ofyn am arbenigedd gweithwyr proffesiynol â sgiliau arbenigol, a gall cyflogau fod yn gostus

Offer a thechnoleg

Gall datblygu cynnyrch arloesol olygu buddsoddi mewn technoleg, offer neu fethodolegau newydd

Eiddo deallusol

Gall amddiffyn arloesedd trwy batentau, nodau masnach, neu hawlfreintiau olygu costau cyfreithiol sylweddol

Prototeipio a phrofi

Cyn i gynnyrch newydd gyrraedd y farchnad, mae’n gallu mynd trwy sawl fersiwn, ac mae cyllid yn gallu helpu i greu prototeipiau, a gyda’r costau profi i fireinio’r cynnyrch terfynol

Ymchwil i’r farchnad

Gall deall anghenion y cwsmer gynnwys cyflawni ymchwil i’r farchnad, arolygon ac astudiaethau grŵp ffocws o bosibl

Mae angen cyllid i gyflawni gweithgareddau R&D fel arfer; ac mae yna amrywiaeth o gyllid arbenigol ar gael fel grantiau penodol i helpu gyda chostau R&D.

Grantiau R&D

Arian a ddefnyddir i ariannu prosiectau R&D nad oes angen ei ad-dalu yw hwn.

Mae’r grantiau’n gallu ariannu gweithgareddau fel cael cymorth gan arbenigwyr, a chyrchu offer arbenigol i greu prototeipiau o gynnyrch.

Mae’r llywodraeth yn darparu grantiau R&D trwy UK Research and Innovation, sy’n tynnu ynghyd saith cyngor ymchwilResearch England, a’r asiantaeth arloesi busnes, Innovate UK.

Mae cynlluniau R&D yn gallu bod yn gystadleuol iawn, ac mae ymgeisio’n gallu bod yn broses gymhleth.

O ran egwyddor, gall cwmnïau arloesol ym mhob diwydiant elwa ar grantiau R&D, ond busnesau mewn sectorau fel technoleg ac ymchwil gwyddonol sydd fwyaf tebygol o fod yn llwyddiannus yn eu ceisiadau.

Dysgwch ragor am grantiau R&D

Rhyddhad treth R&D

Gall busnesau â phrosiectau sy’n bodloni’r diffiniad safonol o R&D hawlio gostyngiad yn eu biliau Treth Gorfforaeth.

Mae’r math o ryddhad treth R&D y gallwch ei hawlio’n dibynnu ar faint eich busnes ac a yw’r prosiect wedi cael ei is-gontracio i chi ai peidio.

Gallai busnesau llai fod yn gallu hawlio rhyddhad treth R&D i fentrau bach a chanolig (BBaCh), a gall cwmnïau mwy a BBaCh sy’n cael eu hisgontractio gan gwmni mwy i gyflawni gwaith R&D fod yn gallu hawlio credyd gwariant R&D (RDEC).

Dysgwch ragor am hawlio rhyddhad treth ymchwil a datblygu.

Cyllid asedau

Mae hyn yn caniatáu i fusnes gaffael asedau heb roi pwysau ychwanegol ar lif arian na bod angen codi swm sylweddol o gyfalaf gweithio cyn prynu ased, ond mae’r cyllid wedi ei warantu ar yr ased, felly os na allwch wneud yr ad-daliadau, gallai’r benthyciwr gymryd yr ased yn ôl.

Gweler yr adran ‘prynu ased mawr’ am fanylion llawn.

Dysgwch ragor am gyllid asedau.

Gorddrafft / credyd cyfalaf gweithio

Math o gredyd ar gyfrif banc eich busnes sy’n darparu mwy o gyllid byrdymor na’r cyfalaf sydd gan eich busnes ar y pryd yw gorddrafft.

Gweler yr adran ‘dechrau busnes’ am fanylion.

Dysgwch ragor am orddrafftiau.

Math o gredyd lle mae’r swm sydd ar gael i’w fenthyg yn gysylltiedig â mantolen y busnes yw credyd cyfalaf gweithio (neu cylch credyd gweithio).

Cyllid sicredig yw hyn fel rheol.

Dysgwch ragor am gredyd cyfalaf gweithio.

British Business Bank plc is a development bank wholly owned by HM Government. British Business Bank plc and its subsidiaries are not banking institutions and do not operate as such. They are not authorised or regulated by the Prudential Regulation Authority (PRA) or the Financial Conduct Authority (FCA). A complete legal structure chart for the group can be found at british-business-bank.co.uk.

Whilst we make reasonable efforts to keep the information in this guide up to date, we do not guarantee or warrant (implied or otherwise) that it is current, accurate or complete. The information is intended for general information purposes only and does not take into account your personal situation, nor does it constitute legal, financial, tax or other professional advice. You should always consider whether the information is applicable to your particular circumstances and, where appropriate, seek professional or specialist advice or support.

Gwerth ei wybod

Innovate UK yw’r asiantaeth arloesi genedlaethol sy’n darparu cyllid i helpu busnesau ar draws y DU i dyfu trwy ddatblygu a masnacheiddio cynnyrch, prosesau a gwasanaethau newydd.

Lawrlwythwch y canllaw

Gallwch lawrlwytho’r canllaw llawn Gwneud i gyllid busnes weithio i chi isod:

Lawrlwythwch canllaw (.PDF, 8.97mb) Making business finance work for you - Expanded edition (Opens in new window)

Your previously read articles