Paratoi eich busnes am gyllid
Yn y mwyafrif o achosion, mae gwneud cais am unrhyw fath o gyllid busnes yn gofyn am dipyn o waith paratoi.
Ar y cyfan, po fwyaf iach y mae sylfeini ariannol y busnes, po fwyaf tebygol y bydd benthycwr neu fuddsoddwr o gynnig cyllid iddo. Felly, mae sicrhau y gallwch brofi hyfywedd eich busnes yn yr hirdymor yn hanfodol i ddiogelu cyllid.
Mae hi’n gallu bod yn anodd gwybod beth y mae angen ei baratoi ymlaen llaw am y bydd gwahanol fathau o gyllid yn gofyn am baratoi gwahanol ddogfennau neu archwilio gwahanol agweddau ar eich busnes.
Isod, rydyn ni wedi rhestru’r pethau mwyaf cyffredin y bydd buddsoddwr neu fenthycwr yn chwilio arnynt wrth asesu cais am gyllid.
Dogfen hanfodol bwysig yw’r cynllun busnes sy’n dangos cyfeiriad eich busnes at y dyfodol.
Mae’n disgrifio strategaeth eich busnes a’i amcanion allweddol, gan weithredu fel map o lle’r ydych chi nawr i gyflawni amcanion eich busnes, fel diogelu cyfran benodol o’r farchnad, lansio cynnyrch newydd, neu ehangu i leoliadau newydd.
Mae cynllun busnes yn cwmpasu elfennau hanfodol fel dadansoddiad o’r farchnad, rhagolygon ariannol, a strwythur sefydliadol eich busnes.
Bydd sefydliadau ariannol a buddsoddwyr yn mynnu gweld cynllun busnes cyn cynnig unrhyw gyllid.
Dysgwch sut i baratoi cynllun busnes.
Dogfennau cyflwyno
Os ydych chi am ddiogelu buddsoddiad ecwiti ar gyfer eich busnes, yna bydd angen i chi baratoi eich pecyn cyflwyno hefyd.
Y pecyn cyflwyno yw cydran weledol eich cyflwyniad i ddarpar-fuddsoddwyr, er mwyn ategu a thynnu sylw at eich cynnig o ran gwerth.
Meddyliwch amdani fel “ffenestr siop” eich busnes, sydd â’r nod o ddenu a chynhyrchu diddordeb.
Dim ots a ydych chi’n chwilio am eich angel fuddsoddwr cyntaf neu’n chwilio am gyllid cyfres C gan fuddsoddwyr corfforaethol, dylai eich pecyn cyflwyno gynnwys y pynciau allweddol canlynol fel rheol:
- eich cynnyrch neu’ch gwasanaeth
- nodweddion gwerthu unigryw eich cynnyrch neu’ch gwasanaeth
- y farchnad ac ymhle rydych chi’n gosod eich busnes yn erbyn y cystadleuwyr
- eich tîm
- y cais ariannol (gan gynnwys cynlluniau manwl am sut y byddwch chi’n defnyddio’r buddsoddiad)
- eich strategaeth hirdymor.
Dylai eich pecyn cyflwyno gael ei ategu gan dystiolaeth a dirnadaeth, dangos eich arbenigedd, a gosod eich busnes fel cyfle buddsoddi hygred er mwyn ysbrydoli hyder buddsoddwyr.
Darllenwch ein canllaw ar sut i baratoi pecyn cyflwyno ar gyfer eich busnes.
Rhagolygon llif arian
Un o’r dangosyddion allweddol y bydd unrhyw fenthycwr neu fuddsoddwr yn edrych arno wrth benderfynu a oes modd iddynt gynnig benthyciad i’ch busnes yw ei lif arian.
Mae llif arian yn mesur faint o arian sy’n dod i mewn ac yn mynd allan o’ch busnes dros gyfnod penodol.
Mae llif arian cadarnhaol yn digwydd pan fo mwy o arian yn dod i mewn i’r busnes nac sy’n mynd allan, ac mae llif arian negyddol i’r gwrthwyneb.
Gall cyfnodau estynedig o lif arian negyddol ei gwneud hi’n anodd talu biliau a chostau eraill, am ei bod hi’n cael effaith uniongyrchol ar y cyfalaf gweithio sydd ar gael ar gyfer eich gweithrediadau pob dydd.
Mae hi’n syniad da datblygu a chynnal rhagolygon llif arian i’ch helpu chi i ragweld unrhyw wasgfa ar gyllid eich busnes am resymau tymhorol neu oherwydd amhariadau.
Gallwch ddefnyddio’r ddogfen hon wedyn i dawelu meddwl darpar-fenthycwyr bod y risg i chi fethu ag anrhydeddu unrhyw ad-daliadau ar y benthyciad mor isel â phosibl.
Gallwch ddysgu rhagor am y mathau o gyllid sy’n gallu cynorthwyo llif arian eich busnes trwy ddarllen adran llif arian y canllaw hwn.
Statws credyd eich busnes
Ym mhob achos fwy neu lai, bydd benthycwr yn cyflawni archwiliad credyd ar eich busnes (neu arnoch chi yn bersonol os ydych chi’n unig fasnachwr neu’n bartneriaeth) cyn cytuno i gynnig cynnyrch ariannol i chi, ac os felly, o dan ba delerau.
Mae sgôr credyd busnes yn asesu pa mor barod yw cwmni am gredyd trwy werthuso amryw o ffactorau er mwyn pwyso a mesur ei sefyllfa ariannol a lefel y risg ariannol sydd yna.
Mae sgoriau credyd busnesau’n amrywio o 0 i 100, gyda sgôr o 0 yn dynodi risg uchel a sgôr o 100 yn dynodi risg isel.
Mae sgôr uwch yn dynodi statws credyd busnes cadarnach.
Er mwyn gwella sgôr credyd eich busnes, dylech geisio cyflawni sgôr sydd mor agos at 100 â phosibl.
Dysgwch ragor am sut i reoli statws credyd eich busnes.
Manylion ariannol eich busnes
Pan fo buddsoddwyr a benthycwyr yn edrych ar eich rhagolygon llif arian a statws credyd eich busnes, maen nhw’n gwneud hynny i bwyso a mesur pa mor broffidiol yw’ch busnes a’i iechyd ariannol yn gyffredinol.
Ond nid y dogfennau hyn yw’r unig bethau y byddan nhw’n edrych arnynt.
Mae maint yr elw ar gyfer pob un o’ch cynhyrchion neu’ch gwasanaethau’n ddangosydd allweddol, a dylid monitro hyn yn barhaus.
Yn syml, proffidioldeb yw’ch ffrydiau incwm (refeniw/gwerthu) minws eich costau, ac mae’n ddangosydd cryf o hyfywedd hirdymor eich busnes.
Mae cadw llygad barcud ar faint eich elw yn caniatáu i chi wneud penderfyniadau cyflym i gynorthwyo twf a gwytnwch eich busnes.
Mae’n rhoi’r cyfle hefyd i chi ddangos y siwrnai y mae eich busnes arni i ddarpar-fuddsoddwyr a benthycwyr, a’ch gallu i ddargyfeirio i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd busnes newydd.
Mae hi’n syniad da hefyd cynnal mantolen sy’n rhestru’ch holl asedau yn erbyn eich rhwymedigaethau.
Bydd mantolen yn rhagfynegi’r asedau a’r rhwymedigaethau hyn at y dyfodol, yn aml ar ffurf rhagolygon 18 mis, 3 blynedd a 5 mlynedd.
Cofiwch fod benthycwyr a buddsoddwyr yn aml yn rhoi mwy o sylw i gyllid cyfredol na rhagolygon, felly mae hi’n syniad da sicrhau y gallwch ddarparu gwybodaeth gyfredol ar eu cyfer pan fyddan nhw’n gofyn.
Dysgwch ragor am reoli cyllid eich busnes bach.
Datblygwch eich rhwydwaith
Mae cael rhwydwaith cymorth wrth ddechrau neu redeg busnes yn amhrisiadwy. Mae rhwydweithio’n caniatáu i chi gysylltu â pherchnogion busnesau newydd eraill sydd ar siwrnai debyg.
Mae hi’n gyfle i ddysgu gan gyd-entrepreneuriaid ac arbenigwyr trwy glywed am eu profiadau, yn arbennig o ran archwilio gwahanol opsiynau cyllid busnes.
Yn ogystal, mae rhwydweithio’n ffordd o gwrdd â mentoriaid, darpar-gleientiaid, a ffrindiau newydd.
Dysgwch ragor am sut i rwydweithio.
British Business Bank plc is a development bank wholly owned by HM Government. British Business Bank plc and its subsidiaries are not banking institutions and do not operate as such. They are not authorised or regulated by the Prudential Regulation Authority (PRA) or the Financial Conduct Authority (FCA). A complete legal structure chart for the group can be found at british-business-bank.co.uk.
Whilst we make reasonable efforts to keep the information in this guide up to date, we do not guarantee or warrant (implied or otherwise) that it is current, accurate or complete. The information is intended for general information purposes only and does not take into account your personal situation, nor does it constitute legal, financial, tax or other professional advice. You should always consider whether the information is applicable to your particular circumstances and, where appropriate, seek professional or specialist advice or support.
Gwerth ei wybod
Mae tua 80% o’r busnesau sy’n cau yn y DU bob blwyddyn yn cau oherwydd anawsterau llif arian – tua 50,000 o fusnesau y flwyddyn.
Lawrlwythwch y canllaw
Gallwch lawrlwytho’r canllaw llawn Gwneud i gyllid busnes weithio i chi isod: