Cyfuno dyledion

Cyfuno dyledion

Os oes gennych nifer o fenthyciadau neu fathau o gredyd, gallech benderfynu cyfuno’r dyledion yn un benthyciad mwy hwylus.

Gallech gyfuno benthyciadau gan nifer o wahanol ddarparwyr yn un ddyled gan un benthyciwr.

Gallai’r broses yma leihau eich ad-daliadau misol, ac os yw’ch sgôr credyd wedi gwella ers ymgeisio am gyllid, gallech gael cyfradd llog is hefyd.

Ond ar y llaw arall, mae cyfuno dyledion yn gallu golygu ffioedd ychwanegol, a gallech ffeindio eich bod chi’n talu cyfradd llog uwch os yw’ch sgôr credyd yn rhy isel.

Yn ogystal, gallai colli taliadau ar fenthyciad ar ôl cyfuno’ch dyledion leihau eich sgôr credyd yn sylweddol, a gallech wynebu ffioedd ychwanegol.

Dyma rhai o’r mathau o fenthyciadau y gellir eu cyfuno:

Benthyciadau sicredig

Ar gyfer benthyciadau o’r math yma, bydd angen i chi ddarparu gwarant gyfochrog, ar ffurf eiddo, cerbyd, tir, peiriannau neu ased pwysig arall y mae’ch busnes yn berchen arno, fel gwarant yn erbyn y swm rydych am ei fenthyg.

Am fod llai o risg i’r benthyciwr, mae benthyciadau sicredig yn dueddol o fod yn rhatach na benthyciadau ansicredig.

Ond, gall ceisiadau am fenthyciadau sicredig gymryd mwy o amser i gael eu cymeradwyo, ac os na fyddwch chi’n talu’r ad-daliadau misol, gall y benthyciwr adhawlio eu dyled ar ffurf yr ased rydych wedi ei glustnodi fel gwarant.

Dysgwch ragor am fenthyciadau sicredig.

Morgeisi masnachol

Benthyciad sy’n cynnwys talu blaendal, wedyn ad-daliadau misol â chyfraddau llog amrywiol neu sefydlog yw hwn.

Mae morgeisi masnachol fel arfer yn rhedeg am rhwng un a 30 mlynedd.

Dyma’r gwahanol fathau o forgeisi masnachol:

Morgeisi perchen-feddianwyr

I fusnesau sy’n prynu eiddo at ddibenion masnachol

Morgeisi prynu i osod masnachol

I fusnesau sy’n bwriadu rhentu’r eiddo i fusnes arall.

Fel rheol, i gael morgais masnachol mae angen i fusnes ddarparu cyfrifon o leiaf y tair blynedd diwethaf, a ffigurau masnachu amcanestynedig ar gyfer y dyfodol.

Dysgwch ragor am forgeisi masnachol.

British Business Bank plc is a development bank wholly owned by HM Government. British Business Bank plc and its subsidiaries are not banking institutions and do not operate as such. They are not authorised or regulated by the Prudential Regulation Authority (PRA) or the Financial Conduct Authority (FCA). A complete legal structure chart for the group can be found at british-business-bank.co.uk.

Whilst we make reasonable efforts to keep the information in this guide up to date, we do not guarantee or warrant (implied or otherwise) that it is current, accurate or complete. The information is intended for general information purposes only and does not take into account your personal situation, nor does it constitute legal, financial, tax or other professional advice. You should always consider whether the information is applicable to your particular circumstances and, where appropriate, seek professional or specialist advice or support.

Gwerth ei wybod

Os oes sawl benthyciad gennych, mae’n bosibl gallwch gyfuno’r dyledion yn un benthyciad mwy hwylus. Gallai hynny leihau eich ad-daliadau a’ch llog.

Lawrlwythwch y canllaw

Gallwch lawrlwytho’r canllaw llawn Gwneud i gyllid busnes weithio i chi isod:

Lawrlwythwch canllaw (.PDF, 8.97mb) Making business finance work for you - Expanded edition (Opens in new window)

Your previously read articles